Mae CRY yn annog pob AS i lofnodi addewid i gefnogi datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau ifanc.
Pam mae arnom angen i ASau gefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc?
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yr Adran Iechyd ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon, Pennod 8
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yr Adran Iechyd ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon, Pennod 8
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) Colli ymwybyddiaeth dros dro (‘blacowts’) ymhlith pobl dros 16 oed
- Argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) ar sgrinio i atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith rhai 12 i 39 mlwydd oed
- Cynllun Gweithredu Clefyd y Galon 2021
Mae polisïau presennol y DU yn gwrth-ddweud ei gilydd, gyda’r canllawiau cyfredol yn seiliedig ar asesiadau anghyson o amlder, dulliau o wneud diagnosis a dulliau rheoli cyflyrau calon mewn pobl ifanc.
Mae ar y DU angen strategaeth genedlaethol i sicrhau bod y canllawiau a’r polisïau i atal marwolaeth sydyn y galon ymhlith yr ifanc yn gyson. Cam cyntaf strategaeth genedlaethol ddylai fod cydnabod amlder ac effaith y marwolaethau hyn yn gywir.
Rhydd adroddiad diweddaraf Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (DOLEN GYSWLLT) a llythyr diweddar at y llywodraeth oddi wrth Awdurdod Ystadegau’r DU (DOLEN GYSWLLT) dystiolaeth glir mai ychydig o adrodd sydd am nifer marwolaethau sydyn y galon ymhlith yr ifanc (35 oed ac iau).
Yn 2015, ystyriai cynghorwyr polisi mai “bychan bach” oedd y risg o farwolaeth sydyn y galon yn yr ifanc, gan ddweud mai ymhlith pobl hŷn yr oedd “y mwyafrif llethol o drawiadau ar y galon yn digwydd”. (DOLEN GYSWLLT)
Nid mater “bychan bach” yw 12 o bobl ifanc yn marw bob WYTHNOS
NI ELLIR cymharu ataliad ar y galon mewn person ifanc â thrawiadau ar y galon ymhlith yr henoed
Beth yw’r addewid?
“Rwyf yn addo cefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r 12 o bobl ifanc sy’n ymddangos yn ffit ac yn iach ond sy’n marw bob wythnos yn y DU o ganlyniad i gyflyrau calon heb eu darganfod.”
Sut mae ASau yn cefnogi’r ymgyrch hon ac yn llofnodi’r addewid?
I lofnodi ar unwaith i’r ymgyrch, gall ASau wneud hynny drwy’r E-BOST a/neu TWITTER.
Mewn E-BOST drwy anfon y datganiad canlynol ymlaen i [email protected]:
Rwyf i heddiw yn addo cefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r 12 o bobl ifanc sy’n ymddangos yn ffit ac yn iach ond sy’n marw bob wythnos yn y DU o ganlyniad i gyflyrau calon heb eu darganfod.
A/neu mewn TRYDARIAD::
Heddiw, rwyf yn addo #cefnogaethASiCRY i sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer atal #YSCD er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r #12YRWYTHNOS www.c-r-y.org.uk/my-pledge