Cysylltu â’ch AS
Mae cysylltu â’ch AS i roi gwybod iddo ef/hi am eich profiad yn ffordd wirioneddol rymus o godi ymwybyddiaeth. Rydym yn ddiolchgar i holl gefnogwyr CRY sy’n anfon e-bost at eu AS neu sy’n trefnu i’w weld ef/hi yn ei feddygfa, i siarad am fater marwolaeth sydyn y galon yn yr ifanc a chyflyrau calon mewn pobl ifanc.
Mae rhannu eich hanesion pam yr ydych yn cefnogi CRY yn gymorth i esbonio’r effaith aruthrol y mae marwolaethau sydyn y galon mewn pobl ifanc yn ei chael ar y teulu, y cyfeillion a’r gymuned.
Mae clywed gan bobl ifanc sydd wedi derbyn diagnosis o gyflwr y galon, neu sydd wedi bod i sesiwn sgrinio CRY, hefyd yn bwysig.
Mae’n hanfodol bod ASau yn clywed yn uniongyrchol oddi wrth eu hetholwyr, yn ogystal ag oddi wrth CRY.
Sut ydw i’n cysylltu â fy AS?
Gellwch ddod o hyd i’ch AS, ynghyd â’i fanylion cyswllt yn https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd/
Beth ddylwn i ofyn i fy AS ei wneud?
Mae CRY yn annog Aelodau’r Senedd (ASau) i addo cefnogi datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau ifanc. Mae ar y DU angen strategaeth genedlaethol i sicrhau bod y canllawiau a’r polisïau i atal marwolaeth sydyn y galon yn yr ifanc yn gyson. Cam cyntaf strategaeth genedlaethol ddylai fod cydnabod amlder ac effaith y marwolaethau hyn yn gywir.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr addewid, yn ogystal â rhestr o’r ASau sydd eisoes wedi addo eu cefnogaeth, yn www.c-r-y.org.uk/my-pledge-AS.
Os nad yw eich AS wedi llofnodi’r addewid eto, gofynnwch iddo ef/hi addo ei gefnogaeth naill ai drwy anfon e-bost i www.c-r-y.org.uk/my-pledge neu drwy drydar: Heddiw, rwyf yn addo #cefnogaethASiCRY i sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer atal #YSCD er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r #12YRWYTHNOS
Os yw eich AS wedi llofnodi’r addewid yn barod, byddem yn dal i’ch annog i gysylltu ag ef/hi ynghylch y mater hwn i ddweud eich stori wrtho ef/hi a’r effaith a gafodd marwolaeth sydyn y galon ar eich teulu, eich cyfeillion a’ch cymuned. Bydd parhau i ymgysylltu ag ASau yn gymorth i ddangos gwir effaith marwolaeth sydyn y galon mewn person ifanc.
Beth yw rhai o’r negeseuon allweddol i sôn amdanynt?
Bob wythnos yn y DU mae 12 12 o leiaf o bobl ifanc sy’n ymddangos yn ffit ac yn iach yn marw o gyflwr y galon na chafodd ei ddarganfod.
Yn 80% o farwolaethau sydyn y galon ymhlith yr ifanc nid oes symptomau o gwbl cyn marwolaeth.
Mae Risg y Galon ymhlith yr Ifanc yn credu y dylai pob person ifanc gael y dewis o gael sgrinio’i galon.
Mae gan 1 mewn 300 o bobl y mae CRY yn eu sgrinio gyflwr y galon a all fod yn angheuol.
Mae gan 1 mewn 100 o bobl y mae CRY yn eu sgrinio gyflwr sy’n llai difrifol ond a all achosi problemau erbyn eu 4ydd degawd os caiff ei adael heb ei drin.
Gellir trin cyflyrau’r galon mewn pobl ifanc, a’u hiacháu hyd yn oed mewn rhai achosion, drwy newid dull o fyw, meddyginiaeth a/neu lawdriniaeth.
Mae CRY yn credu y dylai fod Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon yn yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau ifanc. Rhaid i bolisïau a chanllawiau fod yn gyson. Y cam cyntaf fyddai cydnabod amlder ac effaith marwolaethau sydyn y galon ymhlith yr ifanc yn gywir.
Yn bwysicaf oll, mae ar eich AS angen clywed eich rheswm personol chi dros gysylltu ag ef/hi, a’r effaith y mae’r mater hwn wedi ei gael arnoch chi.
Cynnwys y cyfryngau lleol
Os bydd eich AS yn llofnodi’r addewid i gefnogi strategaeth genedlaethol, bydd swyddfa gwasg CRY yn cyhoeddi datganiad i’r cyfryngau cymdeithasol lleol. Pe baech chi’n fodlon rhoi dyfyniad ynghylch y rheswm pam y mae’n bwysig i chi bod eich AS wedi cefnogi’r addewid, anfonwch ef at [email protected].