Byddem yn ddiolchgar pe gallech e-bostio’r neges isod at eich AS i’w annog i gefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc
Ystyriwch ychwanegu paragraff agoriadol personol ynglŷn â pham yr ydych yn cefnogi CRY.
Gellwch ddod o hyd i gyfeiriad e-bost eich AS yn https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd//
Os byddwch chi'n cyfarfod ag ef/hi'n bersonol, argraffwch gopi o'r addewid a'r placard (LAWRLWYTHWCH YMAE) a gofynnwch iddo ef/hi ei lofnodi pan fyddwch yn cyfarfod. Tynnwch lun ohonoch chi a'ch AS yn dal y placard ac e-bostiwch y llun i CRY neu ei gynnwys yn y trydariad i ddiolch iddo ef/hi.
Diolchwch i'ch AS os bydd yn cefnogi'r ymgyrch â'r trydariad canlynol
Diolch i chi [enw’r AS……] am #cefnogaethASiCRY i sefydlu strategaeth genedlaethol er mwyn atal #YSCD #12yrwythnos www.c-r-y.org.uk/my-pledge
E-BOST I'W ANFON AT ASau
Annwyl
Mae'r elusen Risg y Galon ymhlith yr Ifanc yn annog pob AS i wneud addewid i gefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau ifanc.
Fel ein AS, mae eich cefnogaeth yn hanfodol i gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth yn ein cyfryngau lleol. Bydd unrhyw gymorth y gallwch ei roi yn gymorth i atal marwolaethau sydyn y galon ymhlith pobl ifanc yn ein cymuned, a’r trasiedïau y mae teuluoedd a chymunedau eraill yn eu dioddef bob dydd yn y DU.
Pam mae arnom angen i ASau gefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc?
Mae nifer o ganllawiau ac argymhellion yn sail i bolisi gofal iechyd y DU i atal marwolaethau sydyn y galon ymhlith yr ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yr Adran Iechyd ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon, Pennod 8
- Cynllun Gweithredu Clefyd y Galon 2021
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) Colli ymwybyddiaeth dros dro (‘blacowts’) ymhlith pobl dros 16 oed
- Argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) ar sgrinio i atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith rhai 12 i 39 mlwydd oed
Mae ar y DU angen strategaeth genedlaethol i sicrhau bod y canllawiau a’r polisïau i atal marwolaeth sydyn y galon yn yr ifanc yn gyson. Cam cyntaf strategaeth genedlaethol ddylai fod cydnabod amlder y marwolaethau hyn yn gywir.
Mae polisïau presennol y DU yn gwrth-ddweud ei gilydd, gyda’n canllawiau cyfredol yn seiliedig ar asesiadau anghyson o amlder, dulliau o wneud diagnosis a dulliau rheoli cyflyrau calon mewn pobl ifanc.
Rhydd adroddiad diweddaraf Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (DOLEN GYSWLLT) a llythyr diweddar at y llywodraeth oddi wrth Awdurdod Ystadegau’r DU (DOLEN GYSWLLT) dystiolaeth glir mai ychydig o adrodd sydd am nifer marwolaethau sydyn y galon ymhlith yr ifanc (35 oed ac iau).
Yn 2015, ystyriai cynghorwyr polisi mai “bychan bach” oedd y risg o farwolaeth sydyn y galon yn yr ifanc, gan ddweud mai ymhlith pobl hŷn yr oedd “y mwyafrif llethol o drawiadau ar y galon yn digwydd”. (DOLEN GYSWLLT)
Nid mater “bychan bach” yw 12 o bobl ifanc yn marw bob WYTHNOS
NI ELLIR cymharu ataliad ar y galon mewn person ifanc â thrawiadau ar y galon ymhlith yr henoed
Beth yw’r addewid?
“Rwyf yn addo cefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r 12 o bobl ifanc sy’n ymddangos yn ffit ac yn iach ond sy’n marw bob wythnos yn y DU o ganlyniad i gyflyrau calon heb eu darganfod.”
Sut mae ASau yn cefnogi’r ymgyrch hon ac yn llofnodi’r addewid?
I lofnodi ar unwaith i’r ymgyrch, gall ASau wneud hynny drwy’r E-BOST a/neu TWITTER.
Mewn E-BOST drwy anfon y datganiad canlynol ymlaen i [email protected]:
Rwyf i heddiw yn addo cefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r 12 o bobl ifanc sy’n ymddangos yn ffit ac yn iach ond sy’n marw bob wythnos yn y DU o ganlyniad i gyflyrau calon heb eu darganfod.
A/neu mewn TRYDARIAD::
Heddiw, rwyf yn addo #cefnogaethASiCRY i sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer atal #YSCD er mwyn bod o gymorth i achub bywydau’r #12YRWYTHNOS www.c-r-y.org.uk/my-pledge
Beth fydd yn digwydd ar ôl i ASau lofnodi’r addewid?
Caiff enw pob Aelod o’r Senedd fydd wedi cefnogi’r addewid hon (mewn llythyr, e-bost, trydariad neu arall) ei ychwanegu at y dudalen we www.c-r-y.org.uk/my-pledge lle y nodir “Mae’r ASau canlynol wedi addo eu cefnogaeth i sefydlu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc yn y DU.” (*)Gellir cael mynediad at ddolenni cyswllt i Adroddiad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a llythyr Awdurdod Ystadegau’r DU yn www.c-r-y.org.uk/my-pledge.