Hyd yn hyn, mae 9 aelod o’r Senedd wedi llofnodi addewid CRY.
Mae CRY (Cardiac Risk in the Young / Risg y Galon ymhlith yr Ifanc) yn annog Aelodau’r Senedd (ASau) i gefnogi datblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Marwolaeth Sydyn y Galon ymhlith yr Ifanc er mwyn bod o gymorth i achub bywydau ifanc.
Ceir mwy o wybodaeth am yr addewid a pham y mae Strategaeth Genedlaethol yn bwysig yn y fan hon.
Edrychwch i weld a yw eich AS lleol wedi llofnodi’r addewid. Os nad yw wedi ei llofnodi, cliciwch yma i gael gwybod beth yw’r ffordd orau i gysylltu ag ef/hi a’i gael i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
Os yw eich AS lleol wedi llofnodi’r Addewid yn barod, byddem yn dal i’ch annog i gysylltu ag ef/hi ynghylch y mater hwn i ddweud eich stori wrtho ef/hi a’r effaith a gafodd marwolaeth sydyn y galon ar eich teulu, eich cyfeillion a’ch cymuned. Bydd parhau i ymgysylltu ag ASau yn gymorth i ddangos gwir effaith marwolaeth sydyn y galon mewn person ifanc.
Alun Davies MS
Peter Fox MS
Joel James MS
Jeremy Miles MS
Jack Sargeant MS
David Rees MS
Joyce Watson MS
Sioned Williams MS